Saesneg Cymraeg Facebook

First HydroAMDANOM NI
Cwmni First Hydro yw un o gynhyrchwyr trydan mwyaf dynamig y Deyrnas Unedig ac mae’n gyfrifol am reoli a gweithredu’r gweithfeydd pwmpio a storio yn Ninorwig a Ffestiniog yn Eryri yng Nghymru. Mae First Hydro yn eiddo i fenter ar y cyd, International Power ccc a Mitsui & Co. Cyf.

Bydd Ffestiniog a Dinorwig yn cystadlu bob dydd i werthu eu pŵer i farchnad drydan y Deyrnas Unedig. Bydd y gwaith marchnata a masnachu yn digwydd yng Nghanolfan Rheoli Ynni First Hydro yng Nglannau Dyfrdwy, ger Caer.

First HydroMae pob un o chwe uned gynhyrchu Dinorwig yn gallu cynhyrchu 288MW o drydan, gan gynnig cyfanswm allbwn o 1728MW. Mae gallu cynhyrchu pedair uned 90MW Ffestiniog yn 360MW.

Bydd trydan Cwmni First Hydro, a thrydan pob cynhyrchydd pŵer arall, yn cael ei gario gan systemau trosglwyddo foltedd uchel National Grid Transco, sef peilonau, ceblau a gorsafoedd newidyddion, i’r rhwydweithiau rhanbarthol sy’n mynd ati wedyn i drosglwyddo’r pŵer i gartrefi a busnesau ledled y Deyrnas Unedig.

Electric MountainMae ein Canolfan Ymwelwyr, y Mynydd Gwefru, yn rhoi teithiau o amgylch yr orsaf bŵer yn Ninorwig. Mae’r newyddion diweddaraf a digwyddiadau o ddiddordeb lleol i’w gweld fan hyn.

Rhif Cofrestru TAW 656 2000 65
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 2444277
Swyddfa Gofrestredig: Senator House, 85 Queen Victoria Street, Llundain, EC4V 4DP.