CYSYLLTIADAU CYMUNEDOL
Mae Cwmni First Hydro yn ystyried ei rôl fel noddwr yn un pwysig. Rydym yn cefnogi amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sydd o fudd i gymunedau lleol yn cynnwys digwyddiadau addysgol, chwaraeon, y celfyddydau a’r amgylchedd.
POLISI NAWDD A CHYFRANIADAU CWMNI FIRST HYDRO
(1) Fe wnawn gyflwyno y mwyafrif o’n cyllid rhoddion a nawdd i ddigwyddiadau sydd o fudd i’r cymunedau yr rydym yn gweithredu ynddynt.
(2) Gweinyddwn rhoddion a nawdd yn y meysydd canlynol:
- Rhaglenni addysgol.
- Diwylliant a chelfyddydau.
- Digwyddiadau Amgylcheddol.
- Iechyd a Chwaraeon.
- Cefnogi ymdrechion ein gweithwyr mewn prosiectau cymunedol.
- Rydym hefyd yn cefnogi gweithgareddau sydd yn cynnwys ac yn annog pobl a phlant gyda anabledd i wneud yr uchod.
(3) Os nad yw’n cael ei gymeradwyo gan rheolwyr Cwmni First Hydro ni fydd cefnogaeth i’r canlynol:
- Unigolion (heblaw am amgylchiadau eithriadol).
- Elusennau cenedlaethol (os nad yw’r fudd yn ei gyfanrwydd yn leol).
- Ymgyrch neu dripiau.
- Cynnal hysbysebion.
- Gwleidyddiaeth, milwrol a mudiadau crefyddol.
GWEINYDDIAETH
Fe fydd rhoddion yn cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Rhoddion a Nawdd sydd yn cyfarfod yn fisol i adolygu’r ceisiadau.
GWERTHUSO RHODDION a CHEFNOGAETH AR RAN CWMNI FIRST HYDRO
Mae gwerth i Gwmni First Hydro mewn gwella perthynas â chydweithio gyda unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau lleol.
Mae gwerthuso rhoddion a nawdd yn gymhleth ond gall gynnwys.
- Mesur faint o unigolion sydd yn cael budd.
- Gwelededd yn y wasg.
- Cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r orsaf.
- Gwella ymwybyddiaeth yn y gymuned leol.
- Cynnal perthynas dda gyda cymunedau lleol.
- Cynnal rhifau isel o gwynion allanol.
Fe fydd gwaith cymunedol yma hefyd yn gallu cael ei ystyried yn gyfraniad Cwmni First Hydro i ddatblygiad cynaliadwy.
Mae Cwmni First Hydro yn cefnogi Marathon Eryri. Mae’r ras yn denu cannoedd o athletwyr, mae’n cael ei ystyried fel un o’r rasys mwyaf caled y tymor redeg ac mae’n hybu busnesau lleol.

Roedd Canolfan Cymdeithasol Blaenau Ffestiniog a Clwb Rygbi Ieuenctid Bae Colwyn yn ddau grŵp cafodd cefnogaeth gan Cwmni First Hydro yn 2009.
