Y MYNYDD GWEFRU LLANBERIS
Gyda’r mynyddoedd godidog yn gefndir a golygfeydd trawiadol Eryri, y Mynydd Gwefru yw canolfan ymwelwyr Cwmni First Hydro yn Llanberis. Ar wahanol lefelau yno mae siop anrhegion a chaffi a dyma’r man cychwyn ar gyfer taith i Orsaf Bŵer Dinorwig.
Does dim tâl mynediad i fynd i’r ganolfan ymwelwyr, ond rhaid talu am y daith awr o hyd i Orsaf Bŵer Dinorwig.
SIOP ANRHEGION Y MYNYDD GWEFRU
Ar gyfer eich holl ofynion siopa, mae’r siop anrhegion a chrefftau yn cynnig dewis helaeth o gynhyrchion gan gynnwys llyfrau, gemwaith, gwydr, crochenwaith, melysion a manion eraill.
CAFFI
Yn y caffi fe gewch ddewis gwych o brydau bistro cartref - o fwydydd lleol blasus i brydau tramor a diodydd. Yn ystod yr haf, gallwch fwynhau eich bwyd yn yr ardd braf. Mae yna dwll yn y wal Banc Barclays yn y ganolfan.
Y DEN
Lle chwarae meddal newydd, gwych sy’n addas ar gyfer plant 12 oed ac iau. Mae caffi ar gael. Oriau o hwyl! Gallwn drefnu partïon pen-blwydd hefyd. Rhowch alwad am fanylion ar 01286 873050.
|
||||||||||||
TREFNWCH DAITH DANDDAEAROL
Bydd teithiau dyddiol o’r Pasg hyd at ddiwedd mis Hydref. Ar bob adeg arall, diwrnodau penodol yn unig, ffoniwch am fanylion.
I gael gwybodaeth, ffoniwch y Ganolfan Ymwelwyr ar 01286 870636.
O’r ganolfan, bydd bws First Hydro yn mynd ag ymwelwyr i’r Orsaf Bŵer ei hun. Yng nghrombil mynydd Elidir gyda’i dwnelau hir a thywyll, bydd cyfle i ymwelwyr weld un o orchestion peirianyddol mwyaf dyn.
Oherwydd trefniadau diogelwch First Hydro rhaid I bob ymwelydd wisgo Helmed Ddiogelwch yn ystod y daith dan ddaear. Nid yw’r helmedau yn addas ar gyfer babanod a phlant ifanc iawn, felly ni chaniateir pland o dan 4 oed ar y teithiau. Rydym yn argymell ni ddylsai rhai sydd yn ofni manau caeth fynychu y daith. Wrth bod ymwelwyr yn ymweld a gweithle diwydiannol mae’n rhaid gwisgo esgidiau addas, hynny yw dim sandalau, sodlau na flip flops.
- O Ganolfan y Mynydd Gwefru bydd bws yn mynd ag ymwelwyr dan ddaear i’r orsaf bŵer.
- O oriel y prif falfiau mewlif, gallwch weld pympiau/tyrbinau enfawr Dinorwig ar waith.
- Yn yr oriel wylio, bydd ffilm danddaearol yn rhoi hanes adeiladu a chomisiynu’r Orsaf Bŵer.
- Yna bydd y bws yn mynd â chi i fyny i’r wyneb ac yn ôl i’r Mynydd Gwefru.
Mae’n wefreiddiol!
GWYBODAETH I YMWELWYR
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
TAFLEN MYNYDD GWEFRU
| Gweld Llyfryn ‘Electric Mountain’ (Saesneg) |
| Gweld Llyfryn y Mynydd Gwefru (Cymraeg) |
DATGANIAD MYNEDIAD
Gweld Datganiad Mynediad y Mynydd Gwefru.
LINCS MYNYDD GWEFRU
Atyniadau Eryri – Pethau i’w Gwneud yng Ngogledd Cymru.
