GORSAF BŴER FFESTINIOG
Cafodd Gorsaf Bŵer Ffestiniog ei chomisiynu yn 1963, a hon oedd yr orsaf bŵer pwmpio a storio gyntaf o bwys yn y Deyrnas Unedig. Er bod y pedair uned gynhyrchu Ffestiniog yn hŷn na’r rhai yn Ninorwig, maent yn dal i allu rhoi cyfanswm allbwn o 360MW o drydan – sef digon i gyflenwi holl anghenion pŵer Gogledd Cymru am sawl awr.
Mae’r Cylch Cynhyrchu yn cychwyn yn Llyn Stwlan – sef cronfa ddŵr uchaf Ffestiniog. Bydd sgriniau mawr yn cael eu hagor y tu mewn i’r tyrau mewnlif i weithredu’r llif tuag i lawr ar wasgedd uchel.
Bydd 27 metr ciwbig o ddŵr yn cael ei ryddhau bob eiliad trwy ddwy siafft gwasgedd uchel (pob un yn 200 metr o ddyfnder), sydd wedi’u cysylltu â phedwar twnnel â leinin concrit. Yna bydd llifddorau dur yn cyfeirio’r llif i’r orsaf trwy bibellau a falfiau er mwyn dechrau cynhyrchu trydan.
Bydd y dŵr yn cael ei ddal yn Nhanygrisiau a’i bwmpio’n ôl i Lyn Stwlan, dros nos fel arfer, i gwblhau’r cylch.
Mae’r croestoriad hwn yn dangos prif elfennau’r gwaith pwmpio a storio yn Ffestiniog.


FFEITHIAU A FFIGURAU FFESTINIOG (ARGAE A CHRONFA DDŴR STWLAN)
| Argae: | |
| Math | Gwanas enfawr disgyrchiant |
| Deunydd | Cyfanswm concrit crynswth |
| Hyd gan gynnwys gorlifan | 373.4m |
| Uchder mwyaf yr argae uwch y sylfeini | 34m |
| Trwch mwyaf | 4m |
| Cronfa Ddŵr: | |
| Storio byw a gynlluniwyd | 2 miliwn metr ciwbig |
| Uchafswm gweithredu uwch lefel dŵr a gynlluniwyd | 502.4m datwm ordnans |
| Isafswm gweithredu uwch lefel dŵr a gynlluniwyd | 482.5m datwm ordnans |
| Glawiad blynyddol cyfartalog | 3m |
| Dalgylch | 65 hectares |
| Siafftiau Gwasgedd, Twnelau a Phibelli Mewnlif: | |
| Nifer pwyntiau tynnu dŵr | Dau |
| Nifer tyrrau tynnu/ mewnlif | Dau |
| Siafftiau a Thwnelau Fertigol: | |
| Nifer y siafftiau | Dwy |
| Dyfnder | 195m |
| Diamedr mewnol | 4.4m |
| Leinin | Concrit |
| Nifer y twnelau | Pedwar |
| Diamedr mewnol leinin y pibellau dur | 2.8m |
| Graddiant twnelau | 1 mewn 40 |
| Piblinellau: | |
| Nifer y piblinellau | Pedair |
| Hyd pob piblinell | 213m |
| Trwch a deunydd Rhwng | 22m a 26m |
| Diamedr mewnol dur Coltuf 32 | 2.3m |
| Tanygrisiau a’r Gronfa Ddŵr: | |
| Math | Disgyrchiant |
| Deunydd | Concrit crynswth |
| Hyd gan gynnwys gorlifan | 549m |
| Hyd gorlifan | 79m |
| Uchder mwyaf yr argae uwch y sylfeini | 12.2m |
| Cronfa Ddŵr:: | |
| Storio byw a gynlluniwyd | 2 miliwn metr ciwbig |
| Isafswm gweithredu uwch lefel dŵr a gynlluniwyd | 187.9m datwm ordnans |
| Isafswm gweithredu uwch lefel dŵr a gynlluniwyd | 182.3m datwm ordnans |
| Glawiad blynyddol cyfartalog dros y dalgylch | 2.2m |
| Dalgylch gan gynnwys cronfa ddŵr Stwlan | 951 hectar |
| Generadu/Moduron yr Oorsaf Bŵer: | |
| Nifer | Pedwar |
| Nerth fel generadur | 90 MW ar 0.95 PF |
| Nerth fel modur | 75 MW ar unoliaeth PF |
| Allbwn fel modur ar 50 cylch/eiliad | 104,000 bhp |
| Buanedd | 428 rpm |
| Nerth foltedd | 16 kV |
| System oeri | Cylched gaeedig oeri ag aer gyda chyfnewidyddion gwres aer/dŵr |
| Prif Gyffröydd: | |
| Buanedd | 428 rpm |
| Gyriant | Uniongyrchol |
| Nerth foltedd | 181 |
| Nerth cerrynt | 1050 |
| Tyrbinau: | |
| Nifer | Pedwar |
| Math | Adwaith siafft fertigol |
| Uchder net y dyluniad | 296m |
| Gollwng dŵr ar uchder net y dyluniad ac uchafswm effeithlonrwydd | 29 metr ciwbig/eiliad |
| Buanedd | 428 rpm |
| Falf Fewnlif y Tyrbin: | |
| Gweithrediad | Serfofodur hydrolig |
| Diamedr mewnlif | 1.8m |
| Amser agor | 60 eiliad |
| Amser cau | 60 eiliad |
| Pwysau | 86.3 tunnell fetrig |
| Adeiladwaith casyn sbiral | Haenellau wedi’u weldio |
| Nifer esgyll cyfeirio | 24 |
| Rhedwr: | |
| Adeiladwaith | Dur di-staen wedi’i gastio |
| Diamedr gadael | 1.8m |
| Nifer esgyll | 13 Storio |
| Pympiau: | |
| Nifer | Pedwar |
| Math | Siafft fertigol allgyrchol |
| Nifer y camau | Dau |
| Nifer y pwyntiau tynnu dŵr | Dwy |
| Uchder y dyluniad | 305m |
| Gollwng dŵr ar uchder y dyluniad | 22 metr ciwbig/eiliad |
| Pŵer sydd ei angen adeg cyplysu ar nerth gollwng | 93,600 bhp |
| Buanedd | 428 rpm |
| Falf Ollwng Y Pwmp: | |
| Math | Llif syth |
| Gweithrediad | Serfometr hydrolig dwbl |
| Diamedr allfa | 2m |
| Tyrbinau: | |
| Amser agor | 60 eiliad |
| Amser cau (arferol) | 60 eiliad |
| Adeiladwaith casyn sbiral | Haenellau wedi’u weldio |
| Diamedr Pwlsaduron: | |
| Cam cyntaf | 2.4m |
| Ail gam | 2.5m |
| Nifer llafnau pwlsadur | 10 bob cam |
| Diamedr mwyaf y siafft | 0.7m |
| Offer Switsio Generadur: | |
| Math | Torrwr cylched SF6 |
| Gallu brecio | 174 MVA |
| Foltedd rhwng camau | 16 kV |
| Nerth cerrynt | 6200 amps |
| Newidyddion Generadu: | |
| Nifer | Dau |
| Nerth | 160 MVA |
| Cymhareb | 16 kV/275 kV |
| System oeri | Cylchredeg dŵr o’r gronfa ddŵr isaf |
| Pwysau wrth gyrraedd | 122 tunnell fetrig |
| Cynnwys olew | 27 cu m |
| Newidyddion Cynorthwyol: | |
| Nifer newidyddion yn yr orsaf | Dau |
| Nerth | 1 MVA |
| Cymhareb | 16 kV/415 V |
| Nifer newidyddion cyflenwadau lleol | Dau |
| Nerth | 1 MVA |
| Cymhareb | 11 kV/415 V |
