[Trosolwg] [Croestoriad] [Y Copa] [Clogwyn] [Llanberis] [Technegol] [Archif]
GWYBODAETH DECHNEGOL |
YNGHYLCH Y TYWYDD
Bu diddordeb mawr pan osodwyd gorsaf dywydd awtomatig ar gopa’r Wyddfa ar 1085 metr yng Ngogledd Cymru. Hyd at yn ddiweddar, ni fu gorsafoedd tywydd awtomatig ar dir uchel yn Eryri. Eto mae cryn angen am y wybodaeth yma oherwydd diogelwch ar y mynyddoedd, proffwydo’r tywydd, gwybodaeth i’r cyhoedd, ymchwil a dysgu
Dechreuodd prosiect yr orsaf dywydd yn 1989 mewn ymateb i astudiaeth dymor hir i hinsawdd ac amgylchedd mewn ardaloedd mynyddig. Yn sgil gorsaf dywydd copa’r Wyddfa bu galw am wybodaeth fyw i’r cyhoedd i helpu cerddwyr a dringwyr i farnu’r amodau ar gopa mynyddoedd. Gosodwyd yr orsaf dywydd led-awtomatig gyntaf ar gopa’r Wyddfa yn ystod gaeaf 1993. Mae’n unigryw ym Mhrydain, gan mai dyma’r unig orsaf dywydd ar ben mynydd â chyswllt radio, heb gysylltiad o’r prif gyflenwad trydan. Cafodd y fenter ei harwain gan Dr Jeremy Williams ym Mhrifysgol Cymru, Bangor gyda chryn gymorth gan Swyddfa’r Tywydd, gwneuthurwyr synwyryddion a noddwyr. Mae’r offer wedi gweithio’n effeithiol yn ystod rhai o’r gaeafau mwyaf garw yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ac, yn ddiweddar, yn ystod yr hafau poethaf i gael eu cofnodi.
ARDDANGOS I’R CYHOEDD AM Y TRO CYNTAF
Yn ystod haf 1995, fe ddechreuwyd arddangos amodau’r tywydd ar gopa’r Wyddfa am y tro cyntaf. Roedd y dangosyddion cyfrifiadurol yn deialu’r copa bob awr gan roi crynodeb parhaus o’r amodau ar y copa, sef tymheredd yr aer, buanedd cyfartalog y gwynt a hyrddwynt, cyfeiriad y gwynt a glawiad bob awr. Defnyddiwyd y dangosyddion yma yn Llanberis, Betws-y-coed ac ym Mhen-y-pàs er mwyn i gerddwyr a dringwyr gael gwybod yr amodau ar y copa cyn cychwyn i fyny’r mynydd. Mae offer y copa yn cael ei bŵer o’r haul a’r data yn cael ei drosglwyddo trwy dechnoleg ffôn symudol.
AMODAU TYWYDD AR Y COPA
Bydd amodau’r tywydd ar y copa yn cael eu cofnodi’n barhaus, a’u crynhoi ar gyfer pob awr, 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae cofnodion o hyrddwynt hyd at 140mya ar y copa, y tymheredd ar y copa yn gostwng dan -10°C yn ystod y gaeaf gan godi i dros 25°C yn ystod hafau braf iawn. Cyfartaledd y glawiad yw rhwng 2500mm a 3000mm bob blwyddyn. Erbyn hyn mae Swyddfa’r Tywydd wedi cynnwys yr Wyddfa yn eu rhwydwaith o safleoedd SIESAWS (Gorsaf Dywydd Lled-Awtomatig Amgylchedd Rhew Difrifol).
SAFLE ANODD
Mae’r Wyddfa yn safle anodd mewn sawl ffordd. Oherwydd ei bod yn agos at y glannau, bydd yn wynebu holl rym y tymhestloedd de-orllewinol cyffredin. Mae’r ardal yn enwog hefyd am yr holl law sy’n disgyn yma. Bydd barrug yn ffurfio’n gyflym a helaeth dan rai amodau gaeafol; ar sawl diwrnod yn y gaeaf, bydd haen 300mm o farrug ar bopeth ar y copa. Gall hyn achosi i rai darnau o offer roi’r gorau i weithio. Mae gwaith ar y gweill o hyd i ddatrys y broblem yma, gan gynnwys treialu synwyryddion gwynt newydd sy’n gwrthsefyll rhew, wedi’u cynhyrchu gan Vector Instruments yng Ngogledd Cymru.
SWYDDFA’R TYWYDD
Mae cyswllt ffôn a radio rhwng yr orsaf dywydd a Swyddfa’r Tywydd a Phrifysgol Cymru, Bangor i gasglu data am y tywydd o’r copa bob awr. O 1995, cafodd y wybodaeth yma ei bwydo i rwydwaith data Swyddfa’r Tywydd i’w defnyddio i broffwydo’r tywydd a monitro’r hinsawdd. Mae gan Swyddfa’r Tywydd gyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer lledaenu gwyb am amodau’r tywydd ar y copa: y teledu a’r radio, canolfannau tywydd a gwasanaethau ffôn a ffacs.
AMCANION
Mae gan Brosiect Gorsafoedd Tywydd Eryri nifer o amcanion:
GWYBODAETH I’R CYHOEDD
Un o nodweddion y tywydd yn Eryri yw pa mor gyfnewidiol ydyw. Erbyn hyn y mae tair gorsaf dywydd: ger y llyn yn Llanberis ar 105m, Gorsaf Clogwyn ar 770m a chopa’r Wyddfa ar 1085m, oll yn rhoi gwybodaeth am ddim i’r cyhoedd.
DIOGELWCH AR Y MYNYDD
Gan fod cymaint o gerddwyr a dringwyr yn cael damweiniau ar fynyddoedd Cymru a’r Alban bob gaeaf, sylweddolwyd bod angen rhagor o wybodaeth am amodau’r tywydd ar gopaon mynyddoedd. Ers 1995, bu gwybodaeth am y tywydd o’r Wyddfa ar gael trwy ffynonellau sydd wedi hen ymsefydlu, fel gwasanaethau Swyddfa’r Tywydd a Wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri. Trwy gydweithio â First Hydro yn 1999, bu gwybodaeth am y tywydd ar yr Wyddfa yn cael ei arddangos a’i lledaenu yng Nghanolfan Ymwelwyr First Hydro, y Mynydd Gwefru yn Llanberis, gan sicrhau bod miloedd o ymwelwyr yn gallu deall ac ymddiddori mewn gwaith monitro amgylcheddol a’i bwysigrwydd yn Eryri. Yn y Mynydd Gwefru fe gewch chi olwg agos ar y synwyryddion tywydd a hinsawdd a’u cysylltu â’r lluniau byw sydd i’w gweld oddi mewn i’r adeilad.
YMCHWIL AR Y MYNYDD
Mae mynyddoedd Eryri yn ffurfio amgylchedd wedi’i warchod. Fodd bynnag, ychydig wyddem ni am rai o elfennau’r tywydd ar y mynyddoedd; nid oeddem yn gwybod fawr ddim am amodau’r gaeaf yn y mynyddoedd, er enghraifft. Mae’r dasg o fonitro a deall amgylcheddau mynyddoedd yn weithgarwch amlwg mewn ymateb i’w pwysigrwydd byd-eang, rhanbarthol a lleol a nodwyd yn Rio yn Agenda 21. Bellach mae’r cyhoedd a chymunedau amgylcheddol ac ymchwilwyr yn ystyried y mynyddoedd fel mannau hanfodol a bregus sy’n darparu dŵr, cynefinoedd ecolegol amrywiol, lloches i fflora a ffawna prin, ac yn bwysig am eu gwerth fel amwynderau a hamdden. Un o nodweddion amlwg ardaloedd mynyddig, ac un a ddefnyddiwyd i bwysleisio eu pwysigrwydd yn Agenda 21, yw’r graddiant hinsoddol, amgylcheddol ac ecologol serth, a thrwy hynny amrywiaeth y cynefinoedd. Mae’n angenrheidiol cael amryw o orsafoedd tywydd a hinsawdd er mwyn deall y graddiant yn llawnach, a gallu dangos yn union sut mae lleoliad ac uchder yn dylanwadu ar yr amgylchedd. Ar hyn o bryd mae dau bwnc penodol yn destun ymchwil ledled y byd:
CYNHESU BYD-EANG
Y mae goblygiadau cynhesu byd-eang yn mynd i effeithio ar fflora a ffawna prin a gwerthfawr mynyddoedd Eryri. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi awgrymu y gallai rhai o effeithiau cynharaf unrhyw newid amgylcheddol ymddangos yn llystyfiant y mynyddoedd. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd modd llunio cofnod o amodau amgylchynol a thywydd ar yr Wyddfa er mwyn gallu nodi newidiadau a thueddiadau. Mae gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar yr Wyddfa yn rhan o raglen ymchwil Rhwydwaith Newid Amgylcheddol (ECN) y Deyrnas Unedig.
GOLAU UWCHFIOLED
Mae golau uwchfioled yn gallu niweidio pobl a llystyfiant. Wrth i’r haen oson amddiffynnol yn yr uwch atmosffer gael ei disbyddu, mae mwy o olau uwchfioled yn gallu teiddio trwodd at wyneb y ddaear. Ychydig a wyddom am lefelau’r goleuni uwchfioled sy’n cyrraedd copaon ein mynyddoedd. Bu cyfres o synwyryddion a gynhyrchwyd gan Skye Instruments yng nghanolbarth Cymru yn mesur cyfanswm egni’r haul, pelydriad sy’n weithredol yn ffotosynthetig a phelydriad uwchfioled (UVa ac UVb).
CWBLHAU’R PROFFIL
Gosodwyd ail orsaf dywydd yng Nghlogwyn ar yr Wyddfa yn ystod haf 1998 mewn cydweithrediad â Chwmni Rheilffordd yr Wyddfa. Gosodwyd y drydedd orsaf dywydd yn y Mynydd Gwefru yn Llanberis yn 1999 mewn cydweithrediad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae’r gorsafoedd tywydd hyn yn ffurfio rhwydwaith unigryw o safleoedd arsyllu ar wahanol uchder ac ar safleoedd gwahanol.
DATBLYGIADAU DIWEDDAR
Mewn datblygiad o bwys gyda’n partner diwydiannol First Hydro, mae gorsafoedd tywydd yr Wyddfa i’w gweld yn fyw bellach ar y We Fyd-Eang. Steve Sinfield a luniodd y safle ar ran First Hydro. Ef hefyd a gynlluniodd ac a osododd y rhwydwaith radio a’r system ar gyfer arddangos y wybodaeth ar y We Fyd-Eang. Rhan o’i waith hefyd fu datblygu’r tudalennau gwe a gosod gwe-gamerâu i roi golygfeydd byw o’r Wyddfa o Elidir Fach.
Mae proffil fel hyn, o orsafoedd tywydd sy’n darparu tywydd a lluniau byw ar y We Fyd-Eang, yn newydd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r archif o ddata am hinsawdd yn cael ei defnyddio bellach mewn gwaith ymchwil gyda chydweithwyr yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop.
SUT BYDDWN YN MESUR Y TYWYDD |
Bydd holl elfennau’r tywydd yn cael eu mesur a’u sganio bob 5 eiliad a chaiff y darlleniadau eu storio yng nghof 'Logiwr Data' sydd yn y safle penodol. Yna bydd y wybodaeth yn y logiwr data yn cael ei chrynhoi dros gyfnod o amser.
Tymheredd yr aer:
Bydd hyn yn cael ei fesur gan ddefnyddio sgrîn Stevenson i fesur y tymheredd amgylchynol. Bydd dau synhwyrydd chwip, tua metr o hyd, yn symud yn y gwynt rhag i unrhyw rew ffurfio. Mae’r ffigurau yma yn dangos y tymheredd isaf, cyfartalog ac uchaf a fesurwyd ar gyfer pob cyfnod (graddau Celsius).
Glaw:
Mae mesurydd glaw gyda bwced troi yn mesur cyfanswm cyfaint y glaw sy’n disgyn yn ystod y cyfnod hwnnw (milimetrau). Byddai bwced ag ymylon syth yn llenwi hyd at y lefel yma (mm) gyda chymaint â hynny o law.
Lleithder Cymharol:
Dyma’r gymhareb rhwng faint o ddŵr y mae’r aer yn ei ddal a’r maint mwyaf posib y gallai ei ddal, gyda’r ffigur yma’n cael ei roi fel canran. Mae’n werth cofio bod gorsaf copa’r Wyddfa yn aml dan gwmwl ac felly y bydd y lleithder cymharol (RH) yn uchel.
Heulwen:
Mae synhwyrydd ym mhob gorsaf dywydd yn mesur cyfanswm pŵer yr heulwen mewn cilowat y metr sgwâr. Bydd heulwen gref yr haf yn cyrraedd tua 900 w/m2.
Llif aer:
Bydd buanedd y gwynt yn cael ei fesur gan ddefnyddio anemomedr mewn milltiroedd yr awr (M.Y.A.). Mae’r anemomedr ar gopa’r Wyddfa 20m yn is na’r copa ac ni fydd yn rhoi mesuriad perffaith bob amser. Mae’n eithaf cyffredin gweld gwynt eithriadol o uchel yng Ngorsaf Clogwyn gan ei bod ar gefnen agored iawn ar yr Wyddfa. Pan fydd y tymheredd yn gostwng dan sero yn y gaeaf, gall barrug rwystro’r anemomedr rhag troi. Bydd cyfeiriad y gwynt yn cael ei fesur mewn graddau, felly mae 270° yn golygu yn syth i’r gorllewin a 0° yn golygu yn syth i’r gogledd.

TROSOLWG TECHNEGOL |
Bydd logwyr data yr orsaf dywydd yn cymryd sampl o amodau’r tywydd presennol gan ddefnyddio dros 20 synhwyrydd gwahanol, bob 5 eiliad. Bydd y data yn cael ei gadw yn y logiwr data er mwyn gallu ei ddehongli.

Bob 15 munud bydd y derbynnydd radio yn gwneud cais am yr casgliad data diweddaraf o’r logiwr data, sy’n cael ei drosglwyddo dros 10 km gan ddefnyddio signalau radio. Yna bydd hyn yn cael ei roi mewn cronfa ddata ganolog er mwyn gallu creu archif a dehongli’r data yn hawdd.
Pan fydd rhywun yn edrych ar dudalen we, bydd gweinydd y we yn gofyn am y 'cagliad' data diweddaraf o’r gronfa ddata a rhoi’r wybodaeth ar dudalen we i’r cyhoedd gael ei darllen.
Rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae gorsafoedd tywydd Campbell Scientific yn gweithio:
Y TÎM |
|
CYDWEITHWYR |
|
