First Hydro Company

Cysylltiadau Cymunedol
Canllaw i gwblhau ffurflen gais nawdd a rhoddion.
Mae Cwmni First Hydro yn ystyried ei rôl fel noddwr yn un pwysig. Rydym yn cefnogi amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sydd o fudd i gymunedau lleol yn cynnwys digwyddiadau addysgol, chwaraeon, y celfyddydau a’r amgylchedd.
Cyfranodd Cwmni First Hydro i dau ddeg naw o brosiectau gwahanol yn 2015. Roedd y nawdd yn gymorth i prosiectau a gweithgareddau sydd yn gyffredinol o fewn 10 milltir o’r ddwy pwerdy yng Ngwynedd.
Yn y gorffenol rydym wedi cefnogi:
- Clybiau chwaraeon dwr
- Rasus rhedeg
- Timau pel droed/Seiclo/rygbi/criced
- Gwarchodfeydd Natur
- Mudiadau archeolegol/hanes
- Timau achub mynydd
Ymrwymiad Cwmni First Hydro
Fe wnawn gyflwyno y mwyafrif o’n cyllid rhoddion a nawdd i ddigwyddiadau sydd o fudd i’r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt.
Gweinyddwn rhoddion a nawdd yn y meysydd canlynnol:
- Rhaglenni addysgol
- Diwilliant a chelfyddydau
- Digwyddiadau amgylcheddol
- Iechyd a Chwaraeon
- Cefnogi ymdrechion ein gweithwyr mewn prosiectau cymunedol
Rydym hefyd yn rhoi help ddi-gyllidol i ragleni addysgol, e.e. profiad gwaith.
Mae Cwmni First Hydro hefyd wedi cynorthwyo gweithwyr i godi arian cyfatebol i elusennau lleol, bued hynny yn redeg, cynnal nos wethiau cwis elusenol neu codi arian mewn archfarchnad a nos weithiau cwis elusennol.
Canllaw cais
Dylai eich cais gynnwys gymaint o fanylder a sydd yn bosib yn cynnwys dadansoddiad o’r costau a sut mae cynaliedwyedd yn cael ei ystyried. Fel arfer nid yw Cwmni First Hydro yn talu Treth ar Werth am nawdd a rhoddion.
Noder a dim ond ffurflen nawdd wedi eu cyflawni yn llawn a dderbynnir ac dim ond un cais y flwyddyn a fydd yn bosib.
Os nad yw’n cael ei gymeradwyo gan rheolwyr Cwmni First Hydro, ni fydd cefnogaeth i’r canlynol:
- Unigolion (heblaw am amgylchiadau eithriadol)
- Elusennau cenedlaethol (os nad yw’r fudd yn ei gyfanrwydd yn leol)
- Ymgyrch neu dripiau
- Cynnal hysbysebion
- Gwleidyddiaeth, milwrol a mudiadau crefyddol
- Talu cyflogau
Fe fydd y ceisiadau rhoddion a nawdd ac ceisiadau cyfatebol yn cael eu adolygu gan Bwyllgor Rhoddion a Nawdd sydd yn cyfarfod yn fisol i adolygu’r ceisiadau. Dylai ceisiadau gyrraedd cyn cychwyn y mis fel bod amser i ei gynnwys yn yr adolygiad.
Noder nad yw Cwmni First Hydro yn gallu gaddo fod nodd ar gael ar unhyw amser yn y dyfodol ac felly ni ddylsai unrhyw glwb neu grwp cymunedol wneud trefniadau hir dymor sy’n dibynu ar hyn.
Mae’r broses o werthuso rhoddion a nawdd i cwmni First Hydro yn gallu cynnwys asesiad o:
- Cyhoeddusrwydd e.e. sylw yn y cyfryngau
- Ymwybyddiaeth o Gwmni First Hydro yn y gymuned leol
- Sut mae sefydlu a chynnal perthynas dda gyda cymunedau lleol
Mae cyfraniad Cwmni First Hydro tuag at datblygiad cynaliadwy y gymuned yn cael ei ystyried hefyd.
Mae’n fudd i First Hydro i wella perthynas a cyd-weithio gyda’r gymuned ac mudiadau lleol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Ffurflen Nawdd a Rhoddion, cysylltwch drwy e-bost â Claire.branston@engie.com