First Hydro Company

Materion Amgylcheddol

Materion Amgylcheddol

Mae Gorsafoedd Pŵer Dinorwig a Ffestiniog ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri – sef ardal sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei harddwch. Yn naturiol, byddai’n rhaid i unrhyw gynllun adeiladu mawr gydweddu â’r dirwedd a chynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr.

Mae’r ddwy orsaf bŵer ar safleoedd o fewn tirweddau o ddiddordeb hanesyddol yng Nghymru. Gelwir y mannau hynny yn safleoedd Dinorwig a Blaenau Ffestiniog gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

DINORWIG
Cafodd Gorsaf Bŵer Dinorwig ei hadeiladu ar safle chwareli llechi Dinorwig a gaeodd yn y 1960au. Cafodd y tomennydd llechi eu symud er mwyn gwella gwerth esthetig yr ardal ac adeiladwyd y gwaith o fewn Mynydd Elidir Fawr. Bellach mae Mynydd Elidir Fawr yn rhan o Ardal o Gadwraeth Arbennig (AGA) Eryri. Mae rhan o’r safle o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac, yn debyg i Ffestiniog, yn laswelltir tir uchel lle mae defaid yn pori, a hen chwareli llechi. Mae’r safle yn cynnwys y cronfeydd dŵr yn y top a’r gwaelod a’r argaeau sy’n perthyn iddynt, sef Llyn Marchlyn a Llyn Peris yn y drefn honno. Ymhlith y strwythurau uwchben y ddaear, y mae’r adeiladau gweinyddol a phorthdy diogelwch. Mae Cwmni First Hydro hefyd yn rheoli ac yn berchen ar ddarn bach o dir ar gyrion Nant Peris fel parc bioamrywiaeth, ble cafodd cynlluniau i greu cynefinoedd eu hannog. Ar hyd glannau Llyn Peris mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o ran daeareg, sy’n dangos canlyniadau rhewlifiant. Y mae Llyn Padarn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hefyd, ac i’r llyn hwn y bydd Dinorwig yn rhyddhau dŵr dros ben.

Ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, fe aethpwyd ati’n ofalus i ailblannu planhigion brodorol - gan gynnwys glaswelltau, llwyni a blodau gwyllt. Defnyddiwyd cerrig a llechi lleol (lawer ohonynt wedi’u hadfer o hen adeiladau chwarel) i adeiladu arwynebau, waliau ac adeiladau allanol.

Un o’r prif broblemau amgylcheddol a wynebai gwyddonwyr oedd sut i sicrhau diogelwch y Torgoch, sef pysgodyn sy’n gynhenid i Lyn Peris. Mae’r pysgodyn prin rhyfeddol hwn i’w gael mewn pedwar llyn yn unig ledled Cymru. Cafwyd rhaglen i sicrhau ei fod yn cael ei symud i Ffynnon Llungwy; sef rhewlyn cyfagos.

Bydd Cwmni First Hydro yn sicrhau bod materion amgylcheddol, fel ansawdd dŵr a gwarchod bywyd gwyllt o amgylch Dinorwig, yn cael eu monitro’n barhaus.

Byddwn yn cadw golwg ar arferion a lles rhywogaethau dyfrol yn Llyn Peris a Marchlyn Mawr. Bydd poblogaethau brodorol o eog, brithyll a lamprai dŵr croyw yn cael mynediad at eu dewis fannau i silio gydol y flwyddyn.

FFESTINIOG
Roedd effaith amgylcheddol adeiladu cynllun trydan dŵr mewn ardal mor hardd yn ganolog ar bob cam wrth wneud penderfyniadau. Mae’r safle yn Ffestiniog o fewn glaswelltiroedd ucheldir y Moelwyn. Mae gweddillion y diwydiant mwyngloddio metel a llechi yn amlwg ar y dirwedd. Bydd ffermwyr lleol yn gosod hawliau pori ar gyfer defaid. Mae’r safle yn cynnwys y cronfeydd dŵr uchaf ac isaf a’r argaeau sy’n perthyn iddynt, sef Llyn Stwlan a Llyn Tanygrisiau yn y drefn honno, a safle’r orsaf bŵer. Y mae un Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o ran daeareg rhwng y ddwy gronfa ddŵr.

Un o’r problemau mwyaf sylfaenol y bu’n rhaid i’r penseiri a’r peirianwyr ei datrys oedd sut i gael gwared ar tuag un miliwn o dunelli metrig o greigiau a gloddiwyd wrth wneud y gwaith adeiladu.

Dewisiwyd safleoedd ble gallai’r creigiau gael eu gwasgaru yng nghyfuchlinau’r dirwedd leol. Aethpwyd ati wedyn i blannu glaswelltau, coed a llwyni brodorol i wella’r ardal. Defnyddiwyd cerrig, llechi a deunyddiau naturiol lleol eraill i godi’r adeiladau a’r waliau o fewn yr orsaf.

Byddwn yn gwneud llawer i warchod y bywyd naturiol cyfoethog ac amrywiol o amgylch yr orsaf bŵer. Ar y llethrau sy’n arwain at Argae Stwlan mae grug lledlwyd porffor yn drwch ar y mynydd, yn hafan i amrywiaeth eang o bryfed, gwenyn a glöynnod byw yn ystod misoedd yr haf.

Mae’r ardal yn gynefin naturiol i lawer o rywogaethau adar llai cyffredin gwledydd Prydain – yn eu plith clochdar y cerrig, corhedydd, y dringwr bach, yr hebog tramor a thinwen y garn.