First Hydro Company

Gorsaf Bŵer Dinorwig

Gorsaf Bŵer Dinorwig

Pan gafodd ei chomisiynu’n llawn yn 1984, roedd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn cael ei hystyried yn un o brosiectau peirianyddol ac amgylcheddol mwyaf dychmygus y byd.

Heddiw, mae’r ffordd y mae Dinorwig yn gweithio a’r gallu i ymateb mor gyflym yn dal i gael eu cydnabod ledled y byd. Dinorwig yw’r cynllun mwyaf o’i fath yn Ewrop.

Yn Ninorwig mae 16km o dwnelau tanddaearol, yng nghrombil mynydd Elidir. I’w hadeiladu, roedd angen 1 miliwn tunnell fetrig o goncrit, 200,000 tunnell fetrig o sment a 4,500 tunnell fetrig o ddur.

Mae chwe uned gynhyrchu bwerus yr orsaf yn sefyll yn y ceudwll mwyaf i gael ei greu gan ddyn yn Ewrop. Gerllaw mae siambr y brif falf fewnlif ble mae’r peiriannau sy’n rheoli llif y dŵr trwy’r tyrbinau.

Mae pympiau/tyrbinau cildroadwy Dinorwig yn gallu cynhyrchu ar eu heithaf mewn llai nag 16 eiliad. Gan ddefnyddio trydan y tu allan i’r oriau brig, bydd y chwe uned yn cael eu troi’n bympiau i symud dŵr o’r gronfa ddŵr isaf, yn ôl i Farchlyn Mawr.

FFEITHIAU A FFIGURAU AM DDINORWIG

Data Pwll Ymchwydd:

Maint pwll ymchwydd 80x40x14 metr o ddyfnder
Diamedr siafft ymchwydd 30 metr
Dyfnder siafft ymchwydd 65 metr

Generadur/Moduron:

Math Siafft fertigol, pôl amlwg, oeri ag aer
Nerth generadur 330 MVA
Nerth modur 312 MVA
Foltedd terfynnell 18kV
Cyffröydd Unionydd thyristor
Offer cychwyn Amledd newidiol statig

Newidydd Generadur-Modur:

Nifer Chwech
Nerth yn fras 340 MVA
Cymhareb foltedd 18 kV/420 kV
Ceudyllau Tanddaearol:
Pellter yr orsaf bŵer oddi mewn i’r mynydd 750 metr
Dyfnder y neuadd dyrbinau dan lefel uchaf Llyn Peris 71 metr

Neuadd y Peiriannau:

Hyd 180 metr
Lled 23 metr
Uchder 51 metr ar ei uchaf

Neuadd y Newidyddion:

Hyd 160 metr
Lled 23 metr
Uchder 17 metr
Hyd twnnel dargyfeirio 2,208 metr
Lled 6.5 metr
Uchder 5.5 metr
Llif uchaf 60 metr ciwbig/eiliad
Llif arferol 1-8 metr ciwbig/eiliad
Cwymp 1:1500

Pwmp/Tyrbinau:

Math Francis Cildroadwy
Nifer 6
Gosodiad Gwerthyd fertigol
Mewnbwn pŵer arferol i’r pwmp 275 MW
Cyfnod pwmpio (cyfaint llawn) 7 awr
Buanedd cydamseredig 500 rpm
Uned lawn gyfartalog dros bob pen (cynhwysedd a gyhoeddwyd) 288 MW Potensial cynhyrchu ar lwyth llawn
Allbwn 5 awr
Gofynion pŵer yr Orsaf wrth gynhyrchu 12 MW
Modd gweithredol wrth law -
Wedi cydamseru ac yn troelli mewn aer Cyfradd godi llwyth mewn argyfwng o fod wrth law 0 to 1,320 MW mewn 12 eiliad

Offer switsio Trawsyrru:

Math SF6 cladin metel
Gallu brecio 35,000 MVA
Nerth cyfredol 4,000 A
Foltedd 420 kV

Cloddio:

Y prif gloddio tanddaearol 1 miliwn metr ciwbig (tua 3 miliwn tunnell fetrig)
Cyfanswm cloddio’r cynllun 12 miliwn tunnell fetrig