First Hydro Company

Gorsaf Bŵer Ffestiniog

Gorsaf Bŵer Ffestiniog

Cafodd Gorsaf Bŵer Ffestiniog ei chomisiynu yn 1963, a hon oedd yr orsaf bŵer pwmpio a storio gyntaf o bwys yn y Deyrnas Unedig. Er bod y pedair uned gynhyrchu Ffestiniog yn hŷn na’r rhai yn Ninorwig, maent yn dal i allu rhoi cyfanswm allbwn o 360MW o drydan – sef digon i gyflenwi holl anghenion pŵer Gogledd Cymru am sawl awr.

Mae’r Cylch Cynhyrchu yn cychwyn yn Llyn Stwlan – sef cronfa ddŵr uchaf Ffestiniog. Bydd sgriniau mawr yn cael eu hagor y tu mewn i’r tyrau mewnlif i weithredu’r llif tuag i lawr ar wasgedd uchel.

Bydd 27 metr ciwbig o ddŵr yn cael ei ryddhau bob eiliad trwy ddwy siafft gwasgedd uchel (pob un yn 200 metr o ddyfnder), sydd wedi’u cysylltu â phedwar twnnel â leinin concrit. Yna bydd llifddorau dur yn cyfeirio’r llif i’r orsaf trwy bibellau a falfiau er mwyn dechrau cynhyrchu trydan.

Bydd y dŵr yn cael ei ddal yn Nhanygrisiau a’i bwmpio’n ôl i Lyn Stwlan, dros nos fel arfer, i gwblhau’r cylch.

FFEITHIAU A FFIGURAU FFESTINIOG (ARGAE A CHRONFA DDŴR STWLAN)

Argae:

Math Gwanas enfawr disgyrchiant
Deunydd Cyfanswm concrit crynswth
Hyd gan gynnwys gorlifan 373.4m
Uchder mwyaf yr argae uwch y sylfeini 34m
Trwch mwyaf 4m

Cronfa Ddŵr:

Storio byw a gynlluniwyd 2 miliwn metr ciwbig
Uchafswm gweithredu uwch lefel dŵr a gynlluniwyd 502.4m datwm ordnans
Isafswm gweithredu uwch lefel dŵr a gynlluniwyd 482.5m datwm ordnans
Glawiad blynyddol cyfartalog 3m
Dalgylch 65 hectares

Siafftiau Gwasgedd, Twnelau a Phibelli Mewnlif:

Nifer pwyntiau tynnu dŵr Dau
Nifer tyrrau tynnu/ mewnlif Dau

Siafftiau a Thwnelau Fertigol:

Nifer y siafftiau Dwy
Dyfnder 195m
Diamedr mewnol 4.4m
Leinin Concrit
Nifer y twnelau Pedwar
Diamedr mewnol leinin y pibellau dur 2.8m
Graddiant twnelau 1 mewn 40

Piblinellau:

Nifer y piblinellau Pedair
Hyd pob piblinell 213m
Trwch a deunydd Rhwng 22m a 26m
Diamedr mewnol dur Coltuf 32 2.3m

Tanygrisiau a’r Gronfa Ddŵr:

Math Disgyrchiant
Deunydd Concrit crynswth
Hyd gan gynnwys gorlifan 549m
Hyd gorlifan 79m
Uchder mwyaf yr argae uwch y sylfeini 12.2m

Cronfa Ddŵr:

Storio byw a gynlluniwyd 2 miliwn metr ciwbig
Isafswm gweithredu uwch lefel dŵr a gynlluniwyd 187.9m datwm ordnans
Isafswm gweithredu uwch lefel dŵr a gynlluniwyd 182.3m datwm ordnans
Glawiad blynyddol cyfartalog dros y dalgylch 2.2m
Dalgylch gan gynnwys cronfa ddŵr Stwlan 951 hectar

Generadu/Moduron yr Oorsaf Bŵer:

Nifer Pedwar
Nerth fel generadur 90 MW ar 0.95 PF
Nerth fel modur 75 MW ar unoliaeth PF
Allbwn fel modur ar 50 cylch/eiliad 104,000 bhp
Buanedd 428 rpm
Nerth foltedd 16 kV
System oeri Cylched gaeedig oeri ag aer gyda chyfnewidyddion gwres aer/dŵr

Prif Gyffröydd:

Buanedd 428 rpm
Gyriant Uniongyrchol
Nerth foltedd 181
Nerth cerrynt 1050

Tyrbinau:

Nifer Pedwar
Math Adwaith siafft fertigol
Uchder net y dyluniad 296m
Gollwng dŵr ar uchder net y dyluniad ac uchafswm effeithlonrwydd 29 metr ciwbig/eiliad
Buanedd 428 rpm

Falf Fewnlif y Tyrbin:

Gweithrediad Serfofodur hydrolig
Diamedr mewnlif 1.8m
Amser agor 60 eiliad
Amser cau 60 eiliad
Pwysau 86.3 tunnell fetrig
Adeiladwaith casyn sbiral Haenellau wedi’u weldio
Nifer esgyll cyfeirio 24

Rhedwr:

Adeiladwaith Dur di-staen wedi’i gastio
Diamedr gadael 1.8m
Nifer esgyll 13 Storio

Pympiau:

Nifer Pedwar
Math Siafft fertigol allgyrchol
Nifer y camau Dau
Nifer y pwyntiau tynnu dŵr Dwy
Uchder y dyluniad 305m
Gollwng dŵr ar uchder y dyluniad 22 metr ciwbig/eiliad
Pŵer sydd ei angen adeg cyplysu ar nerth gollwng 93,600 bhp
Buanedd 428 rpm

Falf Ollwng Y Pwmp:

Math Llif syth
Gweithrediad Serfometr hydrolig dwbl
Diamedr allfa 2m

Tyrbinau:

Amser agor 60 eiliad
Amser cau (arferol) 60 eiliad
Adeiladwaith casyn sbiral Haenellau wedi’u weldio
Diamedr Pwlsaduron:
Cam cyntaf 2.4m
Ail gam 2.5m
Nifer llafnau pwlsadur 10 bob cam
Diamedr mwyaf y siafft 0.7m

Offer Switsio Generadur:

Math Torrwr cylched SF6
Gallu brecio 174 MVA
Foltedd rhwng camau 16 kV
Nerth cerrynt 6200 amps

Newidyddion Generadu:

Nifer Dau
Nerth 160 MVA
Cymhareb 16 kV/275 kV
System oeri Cylchredeg dŵr o’r gronfa ddŵr isaf
Pwysau wrth gyrraedd 122 tunnell fetrig
Cynnwys olew 27 cu m

Newidyddion Cynorthwyol:

Nifer newidyddion yn yr orsaf Dau
Nerth 1 MVA
Cymhareb 16 kV/415 V
Nifer newidyddion cyflenwadau lleol Dau
Nerth 1 MVA
Cymhareb 11 kV/415 V