First Hydro Company

Mynydd Gwefru (Teithiau Dinorwig)
Ym mis Rhagfyr 2022, cafodd cwmni First Hydro ganiatâd i ddymchwel Canolfan Ymwelwyr bresennol y Mynydd Gwefru. Bydd yr is-orsaf drydan yn aros, a bydd y tir yn cael ei adfer fel ardal o laswelltir. Bydd y maes parcio presennol yn cael ei gadw a phwyntiau gwefru cerbydau newydd yn cael eu gosod yn ogystal â gwelliannau i'r goleuadau.
Y bwriad yw y bydd y glaswelltir ar gael ar gyfer digwyddiadau cymunedol lleol, yn achlysurol, trwy gydol y flwyddyn. Gall y defnydd hwn hefyd gynnwys darparu pebyll mawr/pergolas a thoiledau cludadwy. Bydd y defnyddiau cymunedol dros dro, a darparu strwythurau symudol yn cael eu gwneud yn unol â Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1995.
Mae’r contract ar gyfer dymchwel ac ail-bwrpasu wedi’i ddyfarnu i Jones Bros a fydd yn cael ei gefnogi gan y contractwr dymchwel arbenigol Wye Valley Demolition. O ddiwedd mis Mehefin ac i mewn i fis Gorffennaf, byddwch yn sylwi ar y gwaith gosod safle a fydd yn cynnwys gosod paneli hysbysfyrddau a chabanau symudol newydd. Mae'r rhaglen waith wedi'i hamserlennu i gymryd rhwng 18-22 wythnos i'w chwblhau. Er diogelwch y cyhoedd yn ogystal â’r contractwyr, bydd un ochr o’r maes parcio ar gau i’r cyhoedd tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Bydd gan yr ardal les contractwyr a pharcio gynllun rheoli traffig ar gyfer y traffig adeila.
Bydd diogelwch o'r pwys mwyaf trwy gydol y prosiect. Yn ddiweddar dyfarnwyd Aur i Jones Bros am y 15fed flwyddyn yn olynol am eu perfformiad iechyd a diogelwch gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA). Oherwydd iddynt ennill statws Aur am 15 mlynedd, rhoddwyd yn ychwanegol Urdd Rhagoriaeth iddynt. Mae'r Tîm Prosiect ar gyfer dymchwel ac ail-bwrpasu adeilad y Ganolfan Ymwelwyr yn gyfarwydd â'r ardal ac wedi gweithio gyda First Hydro yn y gorffennol. Mae ganddynt wybodaeth leol wych ac maent yn ymwybodol o bwysigrwydd hanesyddol Canolfan Ymwelwyr y Mynydd Gwefru. Mae gan Reolwr Prosiect y cynllun 17 mlynedd o brofiad. Bydd yn goruchwylio'r holl waith, gan sicrhau ei fod yn cael ei wneud i safon uchel. O fewn y maes parcio hefyd bydd Canolfan Wybodaeth ‘Galw Heibio’ ar agor i’r cyhoedd. Bydd y ganolfan hon yn cynnwys rhagor o fanylion am y prosiect ac unrhyw wybodaeth allweddol.du. Bydd y cyflenwad trydan i'r adeilad yn cael ei dorri er mwyn sicrhau diogelwch y gweithrediadau. Bydd hyn yn golygu y bydd y goleuadau allanol a'r mesurydd maes parcio hefyd yn cael eu datgysylltu hyd nes y gellir sefydlu ailgysylltu.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect ailddatblygu, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â: communityhelp@electricmountain.co.uk.
Oriel








