First Hydro Company

Diweddariad Prosiect Adnewyddu

Diweddariad Prosiect Adnewyddu (24/02/2021)

Dyddiad: 24/02/2021

Fel y bydd llawer ohonoch chi’n gwybod, ers 2018 rydyn ni wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i ailddatblygu Canolfan Ymwelwyr y Mynydd Gwefru yn Llanberis. Efallai fod y rheini ohonoch chi sy’n byw yng nghyffiniau’r safle neu sy’n ymweld â’r ardal wedi gweld yr adeiladau dros dro sydd wedi cael eu hadeiladu ac a’n helpodd ni i barhau i redeg teithiau Gorsaf Bŵer Dinorwig yn nhymor 2019.

Y tu hwnt i effeithiau’r pandemig Covid-19, mae’r prosiect ailddatblygu wedi wynebu rhai heriau anorchfygol, sydd, yn anffodus, wedi ein gorfodi i ganslo’r gwaith o adnewyddu’r cyfleusterau.

Yn benodol, mae’r gwaith peirianyddol mawr yn Dinorwig wedi cael ei gyflymu er mwyn ymestyn oes weithredol yr orsaf bŵer dros y degawdau nesaf. Yn anffodus, bydd y gwaith yn golygu na fydd modd cynnal teithiau tanddaearol dros y blynyddoedd nesaf – sydd yn draddodiadol wedi bod yn un o gonglfeini cynnig y Mynydd Gwefru. Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau ar y gweill i ailagor canolfan ymwelwyr newydd ar ôl cwblhau’r gwaith.

Fel rheolwr y safle, rydw i’n deall pa mor bwysig ydy’r ganolfan ymwelwyr i gymunedau lleol, a’r rôl gefnogol y mae wedi’i chwarae fel rhan o dwristiaeth Gogledd Cymru ac felly roedd y penderfyniad i ddod â’r prosiect adnewyddu i ben yn un anodd iawn.

Yn sgil y penderfyniad hwn, y flaenoriaeth nawr yw sicrhau bod y ganolfan ymwelwyr yn ddiogel cyn iddi ddirywio ymhellach ac efallai y bydd hyn yn golygu tynnu’r strwythur presennol i lawr. Ochr yn ochr â hyn, mae’r tîm yn ystyried opsiynau tymor byr ar gyfer y safle. Bydd cynlluniau tymor hir ar gyfer y safle yn cael eu hystyried maes o law ond ar hyn o bryd mae’n rhy gynnar i awgrymu beth allai’r rhain fod.

Mae’r orsaf bŵer o dan Chwarel Dinorwig yn dal yn gamp beirianyddol sydd o arwyddocâd cenedlaethol a bydden ni’n gobeithio dod o hyd i ffordd arall o arddangos ei gweithrediadau yn y dyfodol. Fel arfer, byddwn yn parhau i ymgysylltu â chymunedau drwy gefnogi prosiectau, cynlluniau a digwyddiadau lleol – a byddwn yn parhau i weithio gyda fforymau er budd yr ardal leol.

Mae’n ddrwg gennyf orfod cyfleu’r newyddion hyn i’r rhai ohonoch chi oedd yn edrych ymlaen at y ganolfan ymwelwyr newydd. Byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cymunedau am gynlluniau eraill wrth iddyn nhw symud ymlaen.

Yn gywir,

John Armstrong

Rheolwr Gorsaf
Cwmni First Hydro

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â’r Mynydd Gwefru, cysylltwch â communityhelp@electricmountain.co.uk


Diweddariad Prosiect Adnewyddu
Diweddariad Prosiect Adnewyddu